Rheolwr ardal y cyfrifiad
- Recruiter
- Office for National Statistics
- Location
- Cardiff County
- Posted
- 02 Dec 2020
- Closes
- 17 Dec 2020
- Ref
- 1849155400
- Category
- Healthcare and Care
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Part Time
Rheolwyr ardal y cyfrifiad
37 awr yr wythnos
Contract: Rhwng 25 Ionawr 2021 a 14 Mai 2021 + gwyliau
Cyflog yn ddibynnol ar leoliad
Band 1 â€" £24.56
Band 2 â€" £21.28
Band 3 â€" £18.87
Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn:rhwng 9am ac 8pm
Dydd Sul a gwyliau banc: rhwng 10am a 4pm
Arweinwyr dynamig sy'n gwneud y cyfrifiad
Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb â€" pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.
Er mwyn ein helpu ni, mae angen tîm maes mawr arnom i annog pawb yn y gymuned i gymryd rhan, a rheolwr ardal profiadol a medrus i gydlynu'r gweithrediad.
Y rôl
Ydych chi'n rheolwr profiadol? Yn y rôl dros dro, hanfodol hon, byddwch yn goruchwylio'r arweinwyr tîm, a bydd pob un ohonynt yn rheoli eu tîm eu hunain o swyddogion. Mae'r swyddogion i gyd yn gweithio yn y gymuned i annog pawb i gwblhau holiadur ar-lein Cyfrifiad 2021.
Byddwch yn sefydlu eich arweinwyr tîm, ac yn eu helpu gydag unrhyw anawsterau a allai fod ganddynt a'u harwain drwy gyfnodau gwahanol y cyfrifiad. Byddwch hefyd yn rheolwr llinell swyddog cymorth ardal, a fydd allan yn gwneud gwaith maes yn cyflawni tasgau i'ch helpu chi a'ch timau.
Bydd eich timau yn gweithio o bell, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n eu hannog a'u cymell drwy gadw mewn cysylltiad a chynnal galwadau a chyfarfodydd tîm rheolaidd. Bydd angen i chi ddelio ag unrhyw faterion a allai godi a'u huwchgyfeirio, a bydd gennych gefnogaeth desg gymorth staff y cyfrifiad a'r cyfleuster cymorth ar-lein os bydd ei angen arnoch. Gan y bydd eich timau yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau'n aml, bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael pan fydd eich angen arnynt.
Byddwch yn atebol i'r rheolwr rhanbarthol, a fydd yn gweithio yn ein prif swyddfa yn Titchfield.
Amdanoch chi
Fel rheolwr profiadol iawn, rydych chi'n hyderus yn arwain tîm mawr, gan gynnwys gweithio gyda gweithwyr o bell a meithrin cydberthnasau â nhw. Mae gennych hefyd brofiad gweithredol helaeth, gan gynnwys cynllunio a gweithredu prosesau a gweithdrefnau o bell. Mae proffesiynoldeb, hyder a gwydnwch i gyd yn bwysig. Byddwch yn defnyddio eich menter eich hun, yn meddwl yn annibynnol ac yn gallu cadw'ch pen bob amser.
Gan fod hon yn rôl sy'n gofyn i chi weithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa. Yn dibynnu ar eich lleoliad, mae'n bosibl y bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes.
Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n rheolwr effeithiol a sylwgar, sydd â diddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl rheolwr ardal y cyfrifiad.
Gallwn ond eich cyflogi os ydych yn gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.
COVID-19
Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.